Digwyddiadau 2007/2008Cystadleuthau Pasg 2008Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac i'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon am ddarparu yr wyau Pasg fel gwobrau. Da iawn chi blantos am gystadlu mor frwd. Roedd y safon yn uchel a'r beirniad wedi cael trafferth dewis! ADDURNO CERDYN ADDURNO HET ADDURNO WYAU Dyma gyfle i weld y cynnyrch (cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo):-
Diolchwn yn fawr iawn i blant, rhieni, neiniau a staff yr ysgol am roi eu hamser ar Ddydd Sadwrn i bacio bagiau ym Morrisons er mwyn codi arian i'r ysgol. Diolch i'n Cymdeithas Rieni ac Athrawon weithgar am drefnu hyn oll. Codwyd £710 i'r ysgol - ardderchog wir! Hoffai’r Llywodraethwyr ddiolch yn fawr i’r CRA am eu holl gwaith caled. Ffair Hydref 4/10/07 Dyma ychydig o luniau o'r diwrnod (cliciwch arnynt i'w chwyddo):-
|