Logo Ysgol Cwm Y Glo
Ysgol Gynradd Cwm Y Glo
Cefndir

Mae’r ysgol mewn pentref bychan gwledig. Mae rhannau o’r pentref yn hen iawn ac fe adeiladwyd llawer o’r tai ar droad yr ugeinfed ganrif gyda ffyniant Chwarel Dinorwig. Prin iawn yw’r adeiladu wedi bod ar ôl hynny ar wahan i stad Dolafon ar gyrion y pentref, ac ambell i dy preifat.

Gwelwyd ffyniant yn ddiweddar yn y pentref gyda nifer o siopau a busnesau bychain yn cael eu sefydlu yma. Lle bu peth pryder am ddyfodol llewyrchus a bywiog i’r pentref, mae bellach rhyw deimlad o ffynnu yma gyda gwelliant amlwg mewn diwyg tai, siopau ac eiddo yn gyffredinol.

Dalgylch naturiol a hanesyddol yr ysgol yw pentrefi Cwm y Glo a Brynrefail. Ond erbyn hyn, gyda rhieni yn cael dewis ysgol ar gyfer eu plant, mae gennym blant o bentrefi eraill cyfagos.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol wedi cynyddu.. Yn 1992 roedd 40 o ddisgyblion yma. Aeth y nifer i fyny i 90 yn 2002, ac yn 2008 mae gennym 74 o blant wedi eu cofrestru. Mae tair o athrawesau llawn amser yma, un athrawes rhan amser ac un cymhorthydd.

Mae nifer o deuluoedd wedi symud i’r ardal gyda llawer o’r rhain ddim yn siarad Cymraeg. Dylanwadodd hynny ar natur ieithyddol y pentref ond Cymraeg yw iaith o ddydd i ddydd yr ysgol a chyfrwng y rhan fwyaf o’r dysgu.

Lliain yn dangos disgyblion
1993- 1994
Lliain yn dangos disgyblion
2000- 2001

Ysgol Brynrefail yw ysgol uwchradd naturiol y dalgylch a bydd y rhan helaethaf o’r disgyblion yn trosglwyddo yno ar ddiwedd eu cyfnod yn Ysgol Cwm y Glo.

Gan nad oes neuadd nac adeilad addas arall i gynnal gweithgareddau torfol yn y pentref, gwneir defnydd helaeth iawn o neuadd ac ystafell gymunedol yr Ysgol. Yn naturiol felly, mae perthynas agos a chyfeillgar iawn rhwng yr ysgol a’r pentrefwyr a’r gymuned ehangach ym mhentref Brynrefail.

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw awyrgylch ac amgylchedd hapus a deiniadol yn yr ysgol gan ein bod yn ymwybodol iawn fod y cyhoedd sy’n defnyddio’r adeilad yn llawn werthfawrogi gwaith y plant mewn arddangosfeydd ac yn mwynhau darllen ac edrych ar y cynhyrchion.

   
 
Ysgol Gynradd Cwm Y Glo, Cwm Y Glo, Caernarfon, Gwynedd LL55 4DE

Dyluniwyd gan Delwedd

Plant Y Gymuned Ysgol Rhieni Argraffu E-bostiwch Ni Marciwch Ni Sôn wrth ffrind