Logo Ysgol Cwm y Glo
Ysgol Gynradd Cwm y Glo
Newyddion
Lluniau Diweddaraf o'r Albwm

 

Cliciwch yma i ymweld â'r albwm.

Mai 2010

Rydym wedi cael cyfnod prysur o weithgareddau yn ddiweddar.

Cafodd ddosbarth Peris ymweliad gan rhywun arbennig un bore Llun, sef Cas Meurig, mam Ceinwen a Wil. Daeth draw i gynnal sesiwn o ‘Chwedl a Chân’ a chafodd y plant gyfle i wrando ar y ffidl a’r crwth. Roedd pawb wedi mwynhau a rhoddodd yr ymweliad flas i ni o’r hwiangerddi a chwedlau traddodiadol. Felly yn fuan wedyn aeth y dosbarth draw i Ganolfan Cae’r Gors am brynhawn o ganu hwiangerddi yng ngwmni Mrs. Eryl Thomas.

Cafodd y dosbarth gyfle i ail ymweld â Chae’r Gors i gymryd rhan mewn gweithdy ‘Diwrnod Golchi’. Roeddynt wedi mwynhau clywed am Rwdlan yn golchi dillad mewn twb tra yn yr ysgol ond wedi cael braw gweld pa mor galed oedd y gwaith i famau yn y gorffenol!

Bu plant yr adran iau yn brysur iawn hefyd. Daeth cyfnod ymweliadau y Dr. Dewi Ellis Jones i ben gyda’r plant yn perfformio eu cyfansoddiadau un prynhawn Gwener.

Mae’r Clwb Garddio, dan ofal rhieni, wedi ei sefydlu a bellach mae pum sach o lysiau wedi eu plannu ar fuarth yr ysgol. Rydym yn edrych ymlaen i flasu cynnyrch y plant!

Aeth disgyblion bl. 5 a 6 draw i Ysgol Gymuned Benisarwaun yn ddiweddar i weld cyflwyniad gan Gwmni Fran Wên ar fwlio. Ein diolch i staff a phlant yr ysgol am eu croeso cynnes.

Cafwyd bore buddiol iawn yn nghwmni yr heddlu lleol a ‘Cadw Cymru’n Daclus’ yn casglu ysbwriel yn y pentref. Daeth nifer o ffrindiau a rhieni ynghyd gyda’r plant i ymateb i alwad y gymuned am gymorth i ymateb i’r broblem ysbwriel yng Nghwm y Glo. Casglwyd dros 30 bag o ysbwriel mewn cyfnod byr – agoriad llygaid i’r plant. Ein gobaith mawr yw bydd ein disgyblion yn llawer mwy ymwybodol a chydwybodol wrth gael gwared o ysbwriel. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth i’r ymgyrch.

Cafodd ddisgyblion dosbarth Marchlyn gyfle i gystadlu yng ngŵyl gyfeiriannu y dalgylch yn ddiweddar. Roedd pawb wedi cael y profiad o fwynhau llwyddiant!

Bydd Miss Williams yn mynd a nifer o blant yr adran iau draw i’r Ganolfan Hamdden cyn ddiwedd y mis i gystadlu yng ngala nofio ysgolion Arfon. Pob lwc i chi blant!

Mae’Cyfeillion a Rhieni’ yr ysgol yn brysur baratoi ar gyfer ein Ffair Haf ar Fehefin 15fed. Maent yn awyddus am gyfraniadau a chymorth felly cysylltwch a hwy drwy’r ysgol os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr i Gyfeillion a Rhieni yr Ysgol am drefnu noson i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yng nghwmni Cas Meurig, Pigyn Clust, Nial a Danny Cain a phlant yr ysgol.  Wedi cyngerdd gwych yng Nghapel Tabernacl daeth pawb draw i’r ysgol am baned, teisen a sgwrs.

Roedd prysurdeb mawr yn yr ysgol wrth i ni baratoi ar gyfer eisteddfodau yr Urdd.  Ein diolch i Miss Eleri Jones am hyfforddi y plant – braf oedd eu gweld yn mwynhau perfformio ar lwyfan Ysgol Brynrefail, yn Ysgol Maesincla ac yn Neuadd Prichard Jones ym Mangor.  Da iawn chi, blant; rydym yn falch ohonoch!

Bu dosbarthiadau Llydaw a Marchlyn yn Amgueddfa Lechi Llanberis ar ddydd Iau, Mawrth 11eg yn cael gweithdy cerddoriaeth ‘rap’ ar newid hinsawdd.  Roedd hwn yn brofiad ardderchog gyda’r ddau ddosbarth wedi llwyddo i gyfansoddi i safon uchel.

Cafwyd noson ddiddorol a llwyddiannus yng ngwmi y plant yn ddiweddar pan wahoddwyd rhieni i’r ysgol i gael cyflwyniadau a chyngor gan y plant ar ddiogelwch wrth ddefnyddio y rhyngrwyd.  Roedd plant dosbarth Marchlyn wedi ymchwilio yn fanwl ac roedd eu cyflwyniadau yn hynod aeddfed a defnyddiol.

Daeth y cerddor taro enwog, y Dr. Dewi Ellis Jones i’r ysgol ar brynhawn Gwener, Mawrth 12fed er mwyn cynnal y cyntaf o’i bedwar gweithdy gyda phlant blynyddoedd pedwar, pump a chwech.  Rydym yn hynod o ffodus o’i gael yma gan ei fod yn brysur iawn ledled Cymru a thu hwnt.

Bu plant dosbarth Marchlyn yng Nghanolfan Thomas Telford, Porthaethwy ar ddydd Mawrth, Mawrth 16eg yn mwynhau gweithgareddau ar bontydd a sut i’w hadeiladau.

Bu plant dosbarth Llydaw yn ymweld ag eglwysi a chapeli yn Llanberis a Chaernarfon fel rhan o’u hastudiaethau addysg grefyddol ar ddydd Mawrth, Mawrth 23ain.

Bydd disgyblion dosbarth Marchlyn yn mentro draw i Blas Menai am wythnos ddiwedd mis Mawrth er mwyn manteisio ar y cyfle i ddysgu hwylfyrddio, caiacio a hwylio.  Gobeithio bydd y tywydd yn ffafriol – rydym yn edrych ymlaen i glywed eich newyddion a gweld eich lluniau!

Ein llongyfrachiadau a dymuniadau gorau i Mr. a Mrs. G. Roberts (Miss Smith) ar enedigaeth Iestyn Fôn – brawd bach a ffrind newydd i Trystan.  Rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld yn yr ysgol yn fuan.

Ellie a phlant dosbarth Marchlyn yn gwrando ar gyflwyniad difyr Mr. Bob Daimond wrth gadwynau trawiadol Pont Menai.

y Dr. Dewi Ellis Jones yn arddangos ei offerynnau taro i blant blynyddoedd pedwar, pump a chwech.

 

Erbyn hyn, mae tâl aelodaeth yr Urdd wedi ein cyrraedd. Bydd gweithgareddau’r Urdd a Champau’r Ddraig yn cael eu trefnu i’r plant (ar brynhawn Mercher, mae’n debyg) – manylion i ddilyn!

Cynhelir y ‘Clwb Recorder’ ar brynhawnau Llun o Dachwedd 16eg ymlaen.

Bydd gweithdy gwyddoniaeth Zoo Lab yn ymweld â’r ysgol ar ddydd Mercher, Tachwedd 18fed, gyda gweithdy gwyddoniaeth Techniquest yn ymweld â’r ysgol ar ddydd Mawrth, Tachwedd 24ain.

Bydd plant dosbarth Llydaw yn cael ymweld â Chanolfan Addysg Awyr Agored Gwynedd, Rhyd Ddu ar ddydd Mawrth, Rhagfyr 1af – manylion i ddilyn!

Bydd y consuriwr Howard Hughes yn diddanu’r plant ar fore Gwener, Rhagfyr 11eg!

Rydym yn gobeithio y bydd plant dosbarth Peris yn cael taith Nadolig o amgylch coedwig – manylion i ddilyn!

.

Diolchwn i Mrs Nia Oliver am ei harweiniad gofalgar ohonom tra'n Bennaeth Mewn Gofal dros y pedwar tymor olaf. Byddwn yn croesawu pennaeth newydd, Mr Garem Jackson atom ym mis Medi.


Rydym yn ffarwelio gyda deg o blant o Flwyddyn 6 eleni, ac yn dymuno'n dda iddynt yn yr Ysgol Uwchradd. Rydym hefyd yn ffarwelio gyda Mrs Jen Roberts ar ôl pymtheg mlynedd fel athrawes yn yr ysgol, ac yn dymuno'n dda iddi yn ei swydd newydd ym mis Medi.

Neges gan Mrs Roberts: Diolch o galon am yr holl gardiau, anrhegion a geiriau caredig gennych i gyd. Rydw i wedi bod yn hapus iawn yn Ysgol Cwm y Glo ac mae gennyf lawer o atgofion difyr o'r plant, rhieni a staff sydd yn mynd i fod efo fi am byth. Rydw i'n dymuno'n dda i chi a'r ysgol i'r dyfodol.



Diolchwn i Miss Jones am fynd gyda wyth disgybl i aros yng Nglanllyn, Bala am benwythnos o weithgareddau. Roedd pawb wedi mwynhau yn arw, ond wedi blino'n lân wedi cyrraedd adre!


Aeth Blwyddyn 3 a 4 i Cae'r Gors i ar Gwrs Awyr Agored. Diolchwn i'r rhieni ddaeth i helpu - mwynhaodd pawb y diwrnod yn fawr iawn.


Llongyfarchiadau i'r disgyblion yma o Flwyddyn 6 am ennill tystysgrifau Sgiliau Dwr.



Mae'r mosaig ar furiau allanol yr ysgol bron iawn wedi gorffen! Diolchwn i Heather Lowe a'r Adran Iau am eu syniadau campus a'u gwaith caled. Maent wrthi yn brysur yn awr yn harddu corlan y plant Meithrin.

Diolchwn i'r CRA a'n rhieni gweithgar am y bagiau pridd a'r planhigion i'r plant blannu. Maent wedi mwynhau eu plannu ac mae llawer o ddiddordeb yn y tyfiant!


Diolchwn i Flwyddyn 6 am gynnal Ffair Lyfrau lwyddiannus a gwerthu dros £200 o lyfrau gan ennill comisiwn da i'r ysgol.


Diolch i bawb ddaeth draw i gefnogi'r Ffair Mai. Roedd yn braf gweld cymaint o'n cyn-ddisgyblion ni wedi galw heibio hefyd.

Diolch i Flwyddyn 6 am yr amrywiaeth diddorol o gemau i godi arian - roedd llawer o hwyl i'w gael!
Mae'r diolch mwyaf yn mynd i'r rhieni gweithgar fu'n trefnu ac yn paratoi at y diwrnod - mae'r staff yn wir werthfawrogi
eich gwaith caled. Cofiwch fwrw golwg ar y lluniau yn yr Albwm.


Diolch yn fawr i bawb ddaeth i Morrisons i bacio ar 16/5/09. Casglwyd £500 i gronfa y CRA gyda'ch gwaith caled chi!

Mae yr Adran Iau i gyd yn gweithio yn galed i greu murlun mosaig tu allan i'r ysgol gyda Heather Lowe. Edrychwn ymlaen i'w weld wedi darfod!

Llongyfarchiadau i'r disgyblion yma am beidio methu diwrnod o ysgol yn ystod y tymor diwethaf!

 

 

Diolch yn fawr iawn i bawb ddaeth draw i'r ysgol i blygu Eco'r Wyddfa mis Ebrill. Roedd yn gyfle gwych i'r plant gael gweld sut mae'r Eco yn cael ei osod at ei gilydd.


26/3/09 Ar ôl i'r glaw ddarfod cawsom ddiwrnod o weithgareddau amrywiol, gan gynnwys sgipio a beicio noddedig, i godi arian i'r ysgol. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth.


chwyddo



chwyddo

Cafodd dri aelod o'r Cyngor Ysgol fynd i Gynhadledd Ysgolion Iach yn y Galeri yng Nghaernarfon. Cawsont hwyl wrth roi cynnig ar yr offer cadw'n heini.


chwyddo

Cafodd dri o blant fynd draw i Swyddfa Delwedd yn y Galeri i weld sut mae gwefan Ysgol Cwm y Glo yn cael ei diweddaru. Diolchwn i Mike Roberts a'i ataff am y croeso.


Llongyfarchiadau i'r ddau blentyn yma ar ddod yn gyntaf yn Eryri gyda'u gwaith Celf a Ffotograffiaetth. Bob lwc yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd yn awr!

Daeth Ceri Mair Roberts o Ysgol Brynrefail i'r ysgol am wythnos o brofiad gwaith ar ddiwedd y tymor. Cafodd gyfle i dreulio amser ymhob dosbarth ac fe fwynhaodd y profiad yn fawr iawn. Bob lwc iddi yn yr arholiadau.

Yn dilyn y gweithdy diddorol gyda Catrin Williams a Hugh Warren, roedd baneri a llyfr o waith celf disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn cael eu harddangos yn y Galeri cyn y Pasg.
Yn dilyn y gweithdy diddorol gyda Catrin Williams a Hugh Warren, roedd baneri a llyfr o waith celf disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn cael eu harddangos yn y Galeri cyn y Pasg.

Ar ddiwedd y tymor roeddym yn drist wrth ffarwelio gyda Miss Ceri Williams sydd wedi bod yn gymhorthydd yma tra'r oedd Wendy Roberts (Miss Smith ) ar absenoldeb mamolaeth. Diolchwn yn fawr iddi am bob cymorth a dymunwn yn dda iddi yn ei swydd newydd ym Mangor.


chwyddo

Dawnsio Gwerin - Llongyfarchiadau i Grwp Marchlyn am ddod yn Ail yn Eisteddfod Sir Yr Urdd ym Mangor ar 14/3/09.

Llongyfarchiadau hefyd i grwp Glaslyn am ddod yn Ail yn yr Eisteddfod Cylch(Dan 12 oed) ac i Grwp Llydaw am ddod yn Ail hefyd (Dan 10 oed.) Bydd cyfle i bawb ddawnsio eto yn y Cyngerdd Pasg.


Cawsom lawer o hwyl ar Ddiwrnod Trwynau Cochion 13/3/09. Roedd y Cyngor Ysgol wedi trefnu gwahanol weithgareddau i gasglu arian - addurno bisgedi, gwisgo i fyny, dweud jocs, chwilio am drwynau coch o amgylch yr ysgol a chystadleuaeth lluniau gwirion. Casglu £150 i'r achos. Ardderchog wir!

Ar 11/3/09 daeth Marion Hughes i gael sgwrs gyda'r Adran Iau. Roedd wedi bod yn Kotayam yn India gyda llythyrau i ysgol yno gan ein disgyblion. Dychwelodd gyda llythyrau ac anrhegion gan blant Kotayam a difyr oedd cael gweld lluniau ohonynt gan Marion.

Ar 10/3/09 aeth Blwyddyn 5 a 6 i'r Galeri i weld sioe wyddoniaeth Fflach Bang! Roedd yn ddiddorol dros ben ac yn hwyliog hefyd.

Ar 26/2/09 daeth Catrin Williams a Hugh Warren i'r ysgol i gynnal Gweithdy Jazz a Chelf gyda disgyblion Blwyddyn 5 a 6. Roedd pawb wedi mwynhau yn arw. Ewch draw i'r Albwm i weld y lluniau.

Llongyfarchiadau i'r ddau fachgen yma am gael eu dewis i Criw Celf. Byddant yn cael mynd i weithdai Celf mewn gwahanol lefydd yng Ngwynedd yn ystod y flwyddyn.

Roedd yr ysgol ar gau oherwydd eira ar Ddydd Mawrth Chwefror 3, ond cawsom ddigon o hwyl ar y diwrnod canlynol!
Rydym yn gweithio gyda Heather Lowe, artist preswyl, yn ystod y ddau dymor nesaf. Ewch draw i'r Albwm i weld y disgyblion yn gwneud ffelt.
Daeth Dennis Davies o'r NSPCC i son wrth y plant am waith y mudiad. Rydym am gasglu arian i'r NSPCC drwy gael ein noddi i ddysgu sillafu set o eiriau.
Llongyfarchiadau i'r disgyblion yma ar eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Cyngor Gwynedd i wneud lluniau i galendr Arbed Ynni.
Rydym wedi ethol Cyngor Eco newydd a dyma'r disgyblion sydd arno.
Dyma y Cyngor Ysgol Newydd am Dymor y Gwanwyn.
Llongyfarchiadau i'r disgyblion yma am bresenoldeb 100% yn ystod Tymor yr Hydref.

Dosbarth Peris
Dosbarth Llydaw
Dosbarth Marchlyn

Newyddlen Ysgol Cwm Y Glo, Rhifyn 18 ar gael nawr Cliciwch yma.

Diolch i'r CRA gweithgar am drefnu raffl Nadolig i godi arian i'r ysgol. Diolch i bob un o'r rhieni gyfranodd i'r raffl hefyd. Rydym fel staff yn gwerthfawrogi yn fawr bopeth ydych yn wneud i'r ysgol.
Cofiwch fynd draw i'r Maes yng Nghaernarfon ar Ragfyr 22 a 23 i weld disgyblion o'r ysgol yn canu carol ar y sgrin fawr!
Ar Ddydd Iau, Rhagfyr 11, roedd dosbarth Peris yn drist gan eu bod yn ffarwelio gyda Miss Davenport. Roedd hi wedi bod yn fyfyriwr yn y dosbarth ers naw wythnos ac roedd y plant wedi mwynhau bod yn ei gofal. Ewch draw i'r Albwm i'w gweld yn paratoi at barti Jac, yr aderyn du.
Diolch i PC Neil Williams am ddod i’r Ysgol i weithio gyda’r plant. Cafodd y Babanod a Dosbarth Marchlyn sesiwn ar gyffuriau, a Dosbarth Llydaw sesiwn ar alcohol.
Llongyfarchiadau i’r ddwy yma ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Llanrug a Chwm y Glo.
Aeth Ddosbarth Llydaw i Gae'r Gors i gael profiad o fyw yn ystod Oes Fictoria. Ewch i'r Albwm i weld y lluniau.

Ar Dachwedd 14 roedd yn ddiwrnod Plant Mewn Angen. Cawsom lawer o hwyl yn gwerthu teganau a theisennau, gwisgo pyjamas a gwisg ffansi, a chwarae gemau. Casglwyd £200 i Blant Mewn Angen - da iawn chi blant, a diolch i'r Cyngor Ysgol am drefnu. Lluniau yn yr Albwm.

Rydym wedi casglu bocsys i Ymgyrch Nadolig y Plentyn unwaith eto. Diolchwn i bob teulu a gyfranodd.

 

Mae'r Dosbarth Meithrin wedi bod yn brysur yn blasu gwahanol fwydydd gyda Miss Jones.

 

Aeth dosbarth Marchlyn draw i'r Amgueddfa ym Mangor i weld arddangosfa ddiddorol o gysylltiadau yr ardal â Lerpwl dros y blynyddoedd. Wedyn cawsont weithdy creu barddoniaeth hwyliog gyda Karen Owen. Ewch i'r Albwm i weld y plant.

Cymrodd ddisgyblion o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 ran yn y Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Tabernacl. Diolch i bawb a ymunodd gyda ni ac a gyfranodd tuag at y casgliad i'r Ambiwlans Awyr. Diolch hefyd i swyddogion y Capel am fod mor barod gyda'u croeso. Ewch i'r Albwm i weld y plant.

Cafodd Ddosbarth Marchlyn weithdy Celf difyr iawn yng nghwmni'r artist Karen Jones yng Ngae'r Gors. Ewch draw i'r Albwm i'w gweld wrth eu gwaith.

Daeth Becky Williams a Tracy Griffith atom am wythnos o brofiad gwaith o Ysgol Brynrefail. Diolch i chi genod – bydd gan y plant hiraeth ar eich hol.
Mae etholiadau y Cyngor Ysgol wedi cael eu cynnal a dyma'r disgtyblion sydd ar y Cyngor y tymor yma.

Croeso i Mrs Diane Roberts atom ni fel Goruchwyliwr Amser Cinio. Mae'r plant yn adnabod 'Anti Diane' yn barod gan fod ei mherch, Ffion, yn nosbarth Llydaw. Gobeithio y byddwch yn hapus gyda ni Anti Diane.

Roedd Dydd Gwener, Medi 19 yn ddiwrnod trist yn Ysgol Cwm y Glo pan oeddym yn ffarwelio gyda Anti Margaret. Mae hi wedi bod yn edrych ar ôl y plant bob amser cinio am 28 mlynedd! Diolch yn fawr iawn am bob cymwynas Anti Margaret, a cofiwch alw i mewn i'n gweld.

Hysbysfwrdd

Mwynhewch y gwyliau blant - fe welwn ni chi ar
Ddydd Iau, Medi 2, 2010

 

   
 
Ysgol Gynradd Cwm Y Glo, Cwm Y Glo, Caernarfon, Gwynedd LL55 4DE

Dyluniwyd gan Delwedd

Plant Y Gymuned Ysgol Rhieni Argraffu E-bostiwch Ni Marciwch Ni Sôn wrth ffrind