Logo Ysgol Cwm Y Glo
Ysgol Gynradd Cwm Y Glo

ADDYSG GORFFOROL

Wrth gyflwyno’r pwnc hwn sy’n statudol i bob plentyn yn yr ysgol, ceisir cynllunio rhaglen ddysgu sy’n arwain at weithgareddau a phrofiadau egniol, pwrpasol a rheolaidd sy’n galluogi pob plentyn i brofi mwynhad a llwyddiant.

Nid yw’r ysgol yn ddigon ffodus o gael neuadd addas i gyflwyno gymnasteg a dawns i’r plant i gyd. Mae ganddom fuarth helaeth (ond caled) ar gyfer chwaraeon, a defnyddir gae gwair y pentref ar gyfer mabolgampau.

Trefnir gwersi nofio i flynyddoedd 2,3,4,5 a 6 ar hyn o bryd. Anelir at gael pob plentyn i nofio 25m cyn diwedd eu cyfnod yma. I’r un blynyddoedd dysgu ag uchod trefnir hefyd cyfres o wersi gymnasteg a thenis mewn canolfan hamdden gyfagos.

Nodau’r ysgol o ran chwaraeon a darpariaeth chwaraeon :-

• Rhoi cyfle i’r plant brofi llwyddiant mewn ystod eang o chwaraeon.
• Hybu’r plant i fod yn hyderus yn eu gallu athletaidd a’u defnydd o offer chwaraeon.
• Parhau i gystadlu mewn gweithgareddau dalgylchol/sirol a cheisio ehangu hynny i gystadlaethau newydd pan yn bosibl.
• Manteisio ar gynnig arbenigwyr i hyfforddi ac hyrwyddo polisiau ieuenctid y clybiau chwaraeon lleol.
• Hybu ffitrwydd pob plentyn o fewn yr ysgol.

Campau’r Ddraig

Rydym yn ffodus iawn bod ein hathrawon yn fodlon rhedeg Campau’r Ddraig o’u gwirfodd wedi oriau’r ysgol. Mae’n agored i ddisgyblion yr Adran Iau, a daw amrywiol gystadlaethau yn ei sgil

ADDYSG RHYW ac ADDYSG BERSONOL a CHYMDEITHASOL

Mae Addysg Rhyw bellach yn rhan anatod o’r Cwricwlwm Gwyddoniaeth ac fe gyflwynir y cysynyiadau a’r eirfa berthnasol yng Nghyfnod Allweddol 1. Adeiladir ar y wybodaeth a chynyddir yr eirfa yn ystod blynyddoedd yr Adran Iau. Mae polisi cynhwysfawr wedi ei baratoi ac mae ar gael i’w weld pe dymunir hynny.

Llythyrir gyda rhieni i’w hysbysu os yw y gwaith gwyddoniaeth yn cynnwys addysg rhyw, ac mae ganddoch yr hawl i eithrio eich plant rhagddo os dyna yw eich dymuniad. Fodd bynnag, cynghorir unrhyw un gydag amheuon i gysylltu gyda Miss Eleri Jones y cyd-gysylltydd er mwyn ei drafod ymhellach, cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Yn yr un modd, mae Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn ofyn statudol ac rydym yn cyflwyno hyn fel rhan o weithgareddau dosbarth. Mae’r plant yn datblygu sgiliau cymdeithasol niferus –sut i wneud a chadw ffrindiau, sgiliau datrys problemau, rheoli tymer ac adnabod a deall emosiynau a theimladau. Cynigir cyfleoedd i rannu pryderon a pherchir pob cyfrinachedd. Mae’r cynllun Webster-Stratton yn atgyfnerthu ein hamcanion o greu ymagwedd bositif ymysg y disgyblion a’r staff.

Yr Ysgol Sy’n Hybu Iechyd

Mae’r ysgol yn rhan o’r prosiect hwn ac yn gweithio ar y cyd gydag athrawes ymgynghorol sy’n ddolen gyswllt rhwng yr ysgol a’r awdurdod iechyd. Rydym wedi cwblhau pob cam o’r cynllun, ond wrth gwrs yn parhau i gynnal yr amcanion sydd wedi eu gosod o fewn y Cynllun Hybu Iechyd.

ALLGYRSIOL

Mae’r ysgol yn credu’n gryf mewn meithrin a datblygu doniau creadigol ac fe hywryddir hyn drwy gynnal cyngherddau a chystadlu mewn Eisteddfodau. Bydd yr ysgol bob amser hefyd yn gwneud ei gorau i gefnogi gweithgareddau lleol o’r fath.
Ceir hefyd gyfleoedd i gystadlu mewn gweithgareddau addysg gorfforol -yn aml maent ar benwythnos neu gyda’r nôs. Mae’r gweithgareddau hyn yn agored i’r holl ddisgyblion sydd ym marn y Pennaeth, yn aeddfed ac yn barod i gymryd rhan cyfrifol ynddynt.

AMCANION YR YSGOL

Darparu addysg o’r ansawdd gorau posibl, sy’n adlewyrchu anghenion yr unigolyn, anghenion cymdeithas, yr awdurdod Addysg a’r Llywodraeth trwy gyfrwng y Cyfnod Sylfaen a Chwricwlwm Cenedlaethol 2008.

Creu awyrgylch ac amglychedd ble gall plant dyfu, datblygu ac aeddfedu’n unigolion hyderus, bod yn ymwybodol o les pobl eraill, a bod yn aelodau cyfrifol o gymdeithas.

Galluogi pob disgybl i ddod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn eu galluogi i ymgyfrannu’n llawn ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol ein cymdeithas ddwyieithog.

Rydym yn darparu rheolaeth bendant yn y dosbarth gan sicrhau bod y disgyblion yn ymwybodol o reolau’r ysgol fel bod y plant a’r staff yn teimlo’n ddiogel.

Ein nôd yw gwneud yr ysgol yn ran gyfannol o’n cymuned leol, trwy sicrhau cysylltiadau â busnesau a sefydliadau lleol a gwneud plant yn ymwybodol o bwysigrwydd eu hamgylchfyd.

Gweler yr amcanion hyn wedi eu harddangos o amgylch yr Ysgol
er mwyn ein hatgoffa ni i gyd ohonynt!

CODI TÂL

Byddwn bob amser yn ceisio cadw costau mor rhesymol a phosibl. Byddwn yn gofyn am gyfraniad e.e. tuag at gost y bws i’r gwersi nofio / tennis/gymnasteg wythnosol (£1.50 ar hyn o bryd). Rydym yn ffodus bod y RhChYCG yn sybsideiddio llawer arnom.
Rhagwelir y bydd nifer o deithiau yn ystod oriau ysgol a fydd yn brofiadiau gwerthfawr i’r disgyblion.

Mae gan yr ysgol, yn ôl Deddf Addysg 1988

• hawl i ofyn am gyfraniad gwirfoddol tuag at gost o drefnu’r daith
• hawl i ofyn i asiant allanol drefnu’r daith.

Awdurdodir y Pennaeth i ofyn am dâl am -

• weithgareddau a gynhelir y tu allan i oriau’r ysgol
• ddifrod a wneir i unrhyw ran o adeilad yr ysgol yn dilyn cam ymddygiad
• golli llyfr neu gyfarpar neu eiddo sy’n perthyn i’r ysgol

Mae gan y Pennaeth a’r Corff Llywodraethol yr hawl i ddileu gweithgaredd a drefnwyd os yw’n ymddangos y byddai cyfraniadau isel yn golygu colled sylweddol.

Mae gwersi offerynnol yn costio £28 y tymor (am 10 gwers) a disgwylir i blentyn ddilyn y cynllun am o leiaf blwyddyn. Prynir gwasanaeth arbenigwr ar gyfer hyn.

CREFYDD
Nid yw’r ysgol hon yn dal cysylltiadau uniongyrchol a ffurfiol ag unrhyw enwad crefyddol.
Y mae’r addysg grefyddol a gyflwynir yn seiliedig ar faes llafur cydnabyddedig yr Awdurdod.
Fe ellir gwneud trefniadau ar gyfer plant nad yw eu rhieni am iddynt fynychu’r gwasanaethau crefyddol neu astudiaethau crefyddol.

CYRRAEDD YR YSGOL

Mae’r ysgol yn derbyn cyfrifoldeb am y plant am 10 munud cyn ac ar ol pob sesiwn dysgu. Atgoffwn y rhieni yn rheolaidd nad oes gan athrawon gyfrifoldeb am y plant yn swyddogol tan 8:50 a.m. ac na ddylai plant gyrraedd yr ysgol cyn hynny. Mae’r athrawon wrth y drws yn derbyn y plant a gofynnwn yn garedig i rieni beidio dod i mewn wrth drosglwyddo’r gofal yn y bore.

CYFLEOEDD CYFARTAL a CHYDRADDOLDEB HILIOL

Cydnabyddwn bod ein plant yn tyfu mewn cymdeithas eang a nodweddir gan wahaniaethau, nid yn unig mewn hil ond hefyd crefydd, gwisg, bwyd ac iaith sy'n adlewyrchu'r newidiadau cyfoes hyn. Anelwn, felly, at adlewyrchu'r gwahaniaethau hyn ac ehangu ar addysg yr holl ddisgyblion i'w galluogi i ddeall a gwerthfawrogi natur aml-ddiwylliannol amrywiol gymdeithasau.
Yn Ysgol Cwm y Glo byddem yn:-

• Darparu cyfle cyfartal i bob disgybl, beth bynnag fo’i ryw, ei allu, ei gefndir diwylliannol a’i ethnig.

• Sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn dioddef rhagfarn ar sail hil, cred, rhyw, iaith, gallu addysgol, safle cymdeithasol nac anabledd

• Sicrhau fod holl ystod y cwricwlwm ac holl adnoddau yr ysgol ar gael i bob disgybl.

• Sicrhau fod agweddau cymdeithasol cadarnhaol yn cael eu meithrin yn yr ysgol.

• Hyrwyddo cysylltiadau da rhwng aelodau gwahanol grwpiau a chymunedau hiliol, diwylliannol a chrefyddol.

• Gwared o wahaniaethu anghyfreithlon - yn seiliedig ar ddeddf cysylltiadau Hiliol (Diwygiedig) 2000.

Mae ein polisi Cyfle Cyfartal yn adlewyrchu’r uchod.

CYNNAL YMDDYGIAD

Yma yn Ysgol Cwm y Glo mae ein polisi yn nodi yn glir y dylid rhoi pwyslais ar y cadarnhaol-gan annog a chanmol, ynghyd a mynnu ymddygiad priodol bob amser. Credem bod hyn yn meithrin ac yn atgyfnerthu parch at gyfoedion, oedolion ac eiddo.
Rydym yn ceisio creu ethos priodol trwy’r Ysgol a fydd yn sicrhau amgylchfyd ac awyrgylch hapus a threfnus - trwy strategaethau a fydd yn ymgyrraedd tuag at ddatblygu hunan ddisgybliaeth.

Rydym yn gweithredu’r drefn Webster –Stratton trwy’r Ysgol gyfan gan ganmol gweithredoedd penodol a chadarnhaol. Hyn yw strategaeth yr AALl hefyd erbyn hyn.

Gwobrwyir ymdrech trwy system sêr, gyda disgyblion CA 2 yn ennill sticeri gwobryo mewn seremoni wobrwyo wythnosol.

Os yw plentyn yn parhau i gamymddwyn (er gwaethaf pob ymdrech rhesymol gan yr Ysgol),gan amharu ar rediad naturiol y dosbarth neu’r Ysgol rydym yn dilyn canllawiau’r A.A.Ll. gyda’r posibilrwydd o wahardd y plentyn.

Ni chaniateir iaith anweddus o unrhyw fath dan unrhyw amgylchiadau. Mae’r Llywodraethwyr yn gadarn o’r farn bod dylid cymryd camau tuag at waharddiad os digwydd hyn.

CYNGOR YSGOL

Bellach, mae’n statudol cael Cyngor Ysgol, ond rydym ni ar y blaen gan bod un yma ers blynyddoedd bellach! Cynhelir etholiadau rheolaidd ar gyfer cynrychiolwyr ar y Cyngor Ysgol. Dyma griw sy’n cyfarfod bob yn ail wythnos i roi ‘llais y plant’ i rediad yr Ysgol.

Trwy wrando a chyd-weithio mae’n haws symud yr Ysgol yn ei blaen. Mae’r cyngor yno i wrando ar holl ddisgyblion eraill yr Ysgol, a phontio’n bositif rhyngddynt hwy a staff yr Ysgol.

Diolch iddynt hwy mae yma deganau buarth, bocs syniadau…a llawer mwy!


CYSWLLT CARTREF

Yn ogystal a chael ymweld yn unigol â’r ysgol, caiff rhieni hefyd gyfleoedd ffurfiol ddwywaith y flwyddyn i weld neu drafod y gwaith a wneir yn yr ysgol. Gwahoddir hefyd rieni unrhyw un sydd wedi newid athrawes yn nhymor yr Hydref gyda’r bwriad o drafod sut mae eu plentyn wedi setlo mewn dosbarth newydd. Rhoddir adroddiad llawn am waith yr holl ddisgyblion ar ddiwedd pob blwyddyn ysgol.

Mae cydweithrediad agos iawn rhwng yr ysgol a’r cartref yn hanfodol os ydym am sicrhau bod y plentyn yn cyrraedd ei lawn botensial. Mawr obeithiwn y byddwch yn ymddiddori yn addysg eich plentyn ac yn cefnogi’r ysgol.

Gofynnwn am wybodaeth llawn ynglyn a’r plentyn ac am unrhyw newidiadau pwysig yn ei amgylchiadau. Darparir ffurflen wybodaeth gynhwysfawr i chi lenwi a’i dychwelyd. Bydd yr ysgol yn sicrhau bod rhieni yn cael gwybod mewn da bryd am ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr yr ysgol. Croesawir rhieni i weithgareddau megis Gwasanaeth Diolchgarwch, Cyflwyniad Nadolig, a’r Mabolgampau.

CYTUNDEB YSGOL / CARTREF

Cyflwynir cytundeb ysgol / cartref i rieni ar ddechrau tymor cyntaf pob plentyn yn yr ysgol. Gwahoddir rhieni, disgyblion a’r Pennaeth i arwyddo’r cytundeb sy’n cynnwys cyfeiriad pendant at ymrwymiad rhieni i gynnal agweddau positif rhwng yr ysgol a’r cartref. Byddwn yn falch petaech yn dychwelyd y cytundeb i’r ysgol cyn gynted a phosibl.

DATGANIAD CWRICWLWM

Fel soniwyd eisioes, mae tri dosbarth yn y bore a phrynhawn.
Mae cwricwlwm yr ysgol yn cyflwyno’r hyn sy’n statudol arnom yn sgil y Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Ond, cyflwynir yma llawer mwy wrth gwrs na’r hyn sy’n ofynnol arnom – Campau’r Ddraig yn raglen enghreifftiol o hyn.

Ceir pedwar pwnc craidd, sef Cymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg (a ddysgir yn swyddogol yng Nghyfnod Allweddol 2). Cyflwynir rhain nid yn unig fel ‘pynciau’ ond hefyd yn dragwyddol drawsgwricwlaidd.
Ceir hefyd y pynciau sylfaen sef Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Grefyddol, Celf, Cerddoriaeth, Technoleg, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, ac Addysg Gorfforol.

Trefnir rhan o’r gwaith yn thematig. Fel hyn mae’n haws cynnwys a chyflawni y nifer fawr o’r Rhaglenni Astudio sy’n creu y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Cyflwynir y gwaith mewn amrywiol ddulliau o drefniant – dosbarth cyfan, grwpiau, deuoedd, unigol neu ar y cyd efo dosbarth arall. Ceir cydbwysedd o ddulliau a benderfynir arnynt yn ôl y dasg, y disgyblion a’r lefel o gynhaliaeth a roddir. Ceir hefyd yma waith sy’n wahaniaethol ei amcan neu ei gynnwys er mwyn rhoi cynhaliaeth ac ymestyniad i holl blant y dosbarth. Yn aml gwelir mai ymweliad yw’r dull mwyaf buddiol o gyflwyno neges!

DIOGELWCH AR Y BUARTH
Mae rheolau pendant ar gyfer cael mynediad mewn cerbyd. Mae’n rhaid cael caniatad o swyddfa’r Pennaeth cyn cael dod a cherbyd preifat neu nwyddau ar y buarth. Mae hyn oll yn unol gydag Asesiadau Risg diweddar. Ceir arwyddion clir ar y giatiau yn nodi hyn. Ni chaniateir ceir ar y buarth ar ol 8.40 oherwydd amseroedd cytunedig gyda cherbydau rheolaidd.

DOGFENNAU SYDD AR GAEL I’W GWELD

Mae gennych hawl os dymunwch i gael golwg ar nifer o ddogfennau megis cylchlythyrau’r Swyddfa Gymreig / Cynulliad, Polisiau yr Awdurdod Addysg, Polisiau’r Corff Llywodraethol, adroddiadau AEM ar yr ysgol, meysydd llafur ac adroddiad blynyddol i rieni.

Cewch wneud trefniant gyda’r Pennaeth ar gyfer hyn.

Mae’r Ysgol yn berchen ar Gynllun Cyhoeddi Cyfredol.


GADAEL YR YSGOL

Dylai’r rhieni ddod i gyfarfod y plant at giat yr ysgol a bydd yr athrawon yn eu danfon yn ddiogel. Os digwydd i riant fod yn hwyr yn dod i nol plentyn, bydd yr athrawes yn mynd ag ef yn ôl yn ddiogel i’r dosbarth. Gofynnir i rieni sy’n hwyr ddod i mewn i’w nol.
Yn naturiol, nid oes hawl gan blentyn i adael tir yr ysgol heb ganiatâd a heb oedolyn i'w gyrchu.

GOFAL BUGEILIOL

Mae cynnal ymddygiad da yn gwbl angenrheidiol os yw’r ysgol am gyflawni ei phwrpas, sef hybu twf a datblygiad pob plentyn. Rhoddir pob plentyn yng ngofal ei athrawes ddosbarth, ond ceisia’r staff cyfan ymorol am les yr holl ddisgyblion. Mae’r ysgol hon yn annog y plant i fod yn hunan¬ddisgybledig, yn gyfrifol ac i barchu eraill. Rydym yn gofyn am gefnogaeth y rhieni yn hyn o beth.

Bydd Nyrs yr ysgol a’r Ymwelydd lechyd yn dod i’r ysgol yn achlysurol i roi prawf golwg i‘r plant a hefyd yn edrych ar lanweithdra’n gyffredinol. Ceir ymweliad gan yr Awdurdood lechyd i brofi clyw y plant yn flynyddol hefyd.

GOHEBIAETH

Rhoddir gwybodaeth rheolaidd am weithgareddau’r tymor trwy lythyron misol. Bydd yr holl ohebiaeth yn ddwyieithog. Gofynnir yn garedig i chi ddarllen pob gohebiaeth yn ofalus os gwelwch yn dda.

GORUCHWYLIO

Ein nod yw sicrhau diogelwch y plant a chadw safon dderbyniol o drefn a rheolaeth.

Mae’r ysgol yn gweithredu trefniadau goruchwylio plant gan yr athrawon a’r gweinyddesau yn ystod y cyfnodau isod:

> Cyn dechrau’r ysgol 10 munud (8.50 – 9.00)

> Egwyl y bore 15 munud (10.40 – 10.55)

> Egwyl y prynhawn 10 munud (2.15 - 2.25)

> Diwedd y prynhawn 10 munud (3.30 – 3.40)

A) TREFNIADAU TYWYDD SYCH

1. Gweithredir y goruchwylio drwy system rota dyddiol.

2. Bydd y staff ar ddyletswydd yn goruchwylio’r buarth drwy gydol y cyfnod.

3. Gwneir trefniadau i gyflenwi pan fo aelod o staff yn absennol.

B) TREFNIADAU TYWYDD GARW

Ar gyfnodau o dywydd garw, yr athrawon dosbarth fydd yn gyfrifol am baratoi gweithgaredd i’r plant ac i’w goruchwylio yn ystod yr egwyl.

C) TREFNIADAU AMSER CINIO

Goruchwylir plant gan o leiaf dwy oruchwylwraig Ar ol i’r plant orffen bwyta, mae’r goruchwylwyr yn mynd allan gyda’r plant ac yn eu goruchwylio ar y buarth hyd amser dod i mewn.

Yn ystod tywydd garw, byddant yn goruchwylio’r plant yn eu dosbarthiadau.

GWAITH CARTREF

Byddwn yn gosod gwaith i’r plant i’w gwblhau gartref yn rheolaidd. Gall hyn olygu gorffen gwaith, cwblhau tasg benodol, canfod gwybodaeth, holiadur, rhestr sillafu neu waith dysgu. Carwn bwysleisio eich rôl chwi fel rhieni yn hyn a gobeithiwn y byddwch yn cynorthwyo, yn goruchwylio ac yn sicrhau fod y tasgau yn cael eu cyflawni hyd gorau gallu pob unigloyn.

Mae gennym lyfryn penodol ar gyfer cofnodi plentyn yn darllen gyda rhiant oherwydd ein bod yn credu fod y weithgaredd yma yn bwysig a gwerthfawr.

GWASANAETH PRYDAU BWYD

Gwasanaeth Arlwyaeth Masnachol Gwynedd sy’n gyfrifol am y cinio ganol dydd. Paratoir prydau iachus a maethlon. Pris cinio ysgol ar hyn o bryd yw £9.25 yr wythnos, £1.85 y dydd. Dylid talu’r pres o flaen llaw ar ddydd Llun mewn amlen gydag enw’r plentyn a’i ddosbarth yn glir arno

Gofynnir i rieni anfon nodyn i’r ysgol yn rhoi pythefnos o rybudd os yw’r plentyn yn bwriadu trosglwyddo o gymryd cinio ysgol i frechdannau neu o frechdanau i ginio ysgol.

Os ydych yn derbyn Cymorth Incwm, caiff y plentyn ginio di-dâl. Cewch ffurflen gais o’r ysgol.
Gall y plentyn ddod â’i ginio ei hun os dymunwch, ond peidiwch ag anfon poteli gwydr na chaniau diod os gwelwch yn dda. Dylai cynnwys y bocs bwyd fod yn iach – ni chaniateir pethau da.

CYNLLUN LLEFRITH - Darperir llefrith yn rhad ac am ddim i bob plentyn yn Adran y Babanod.

Rhowch wybod i ni trwy lythyr os na dymunwch i’ch plentyn dderbyn y llefrith.

BYRBRYD – Mae potel o ddwr ar gael i bob plentyn yn ddyddiol.
Hefyd, mae siop ffrwythau s’yn gwerthu ffrwythau ar gyfer egwyl y bore ar gôst o 20c yr un.

GWISG YSGOL

Mae ganddom wisg ysgol swyddogol s’yn cynnwys llun y dylluan, sef logo’r ysgol. Credem bod gwisgo’r wisg yn arwain at ymdeimlad o berthyn a balchder .

Rydym bellach yn gwerthu’r wisg ein hunain trwy gwmni Gwisg Cymru, Llandygai.

Y wisg -
Crys polo glas golau
Crys chwys glas tywyll
Sgert / trowsus glas tywyll

Erbyn hyn gellir hefyd prynu côt, cap, ffrogiau gingham a.y.yb efo logo’r ysgol arnynt.

Ar daith addysgol neu drip, bydd y plant yn gwisgo’r wisg ysgol – fel y gellir eu hadnabod yn hawdd a’u bod yn cynrychioli enw’r ysgol.

*Dalier Sylw – Gwnewch yn siwr fod eich plentyn / plant yn gwiso esgidiau addas ar gyfer yr ysgol (esgid sy’n ffitio’r droed yn ddiogel ond heb sawdl uchel)

Addysg Gorfforol - Mae’r disgyblon angen crys-T, trowsus byr ac esgidiau addas. Rydym yn gofyn i’r plant newid eu dillad ar gyfer gwersi addysg gorfforol er mwyn iddynt dysgu sgiliau wrth wneud ac i hyrwyddo’r sydniad o lendid corfforol.

GOFYNNWN I BAWB SICRHAU FOD ENWAU’R DISGYBLION AR BOB DILLEDYN!

GEMWAITH -Am resymau diogelwch dim ond wats a stydiau clust a ganiateir yn yr Ysgol

MYNEDIAD I’R ANABL
Yn unol a’r gofynion diweddaraf, mae ramp arbennig wedi ei leoi tu allan i swyddfa’r Pennaeth ar gyfer mynediad hwylus i’r anabl. Mae yma hefyd doiled pwrpasol ar gyfer person âg anabledd corfforol.

DARPARIAETH AR GYFER PLANT AG ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

Yn yr ysgol hon fel pob un arall, gall fod gennym blant gydag anghenion arbennig. Ni olyga hynny o angenrheidrwydd nad ydyw’r plant hyn yn blant galluog, neu bod eu problem yn un barhaol. Gall nifer o ffactorau effeithio ar ddatblygiad addysgol plentyn, ac mae hi’n bwysig i rieni ddweud wrthym ni am unrhyw beth a allai effeithio ar ddatblygiad addysg eu plant. Mae gan blant hynod o alluog Anghenion Arbennig yn ogystal, ac mae'r ysgol hon yn ymwybodol iawn o hyn. Mae’r ddeddfwriaeth ddiweddar wedi ffurfioli canllawiau a ganlynir gennym ni, ac mae’n bwysig i rieni fod yn ymwybodol ohonynt a sut yr ydym ni’n ymdrin â hwy.

Ein polisi ni yw gadael i rieni wybod am bob datblygiad (neu ddiffyg datblygiad) a welwn yn eu plant, o ran gwaith ac ymddygiad. Os credwn bod unrhyw broblem, yna byddwn yn dweud wrth rieni’r plentyn hwnnw yn ddiymdroi. Erbyn hyn, mae’r gyfraith hefyd yn mynnu bod rhieni yn cymryd rhan ym mhob cam o unrhyw broblem addysgol, yn ddiagnosis a thriniaeth. Synnwyr cyffredin yw hynny wrth gwrs, a gofynnir yn garedig am yr un synnwyr cyffredin pan fydd rhieni’n ymwybodol o rywbeth y tu allan i’r ysgol y credent sy’n rhwystr i ddatblygiad eu plentyn.
Yn unol a gofynion Adran 161 o Ddeddf Addysg 1993, mae’n rhaid i bob ysgol ddarparu’n briodol ar gyfer disgyblion sydd ag AnghenionAddysgol Arbennig.

Egwyddorion

Sicrhau cyfle cyfartal cwricwlaidd a chymdeithasol i unrhyw blentyn ag anghenion addysgol
arbennig gan ei addysgu yn ei ysgol arferol lle bo hynny’n bosibl.

•Sicrhau bod ganddom drefn ar gyfer adnabod plant ag anghenion addysgol arbennig.

•Darparu addysg wahaniaethol yn ôl y gofyn.

•Gweithio mewn partneriaeth a’r rhieni gan gadw cyswllt agos âg hwy.

•Sicrhau ymateb ysgol gyfan fel bod pob athrawes dosbarth yn cydweithio gyda’r Cyd – Gysylltydd A.A.A.

•Defnyddio a chydweithio gyda’r asiantaethau stadudol perthnasol e.e. y Gwasanaeth Seicolegol, yr Awdurdod Iechyd, y Gwasanaethau Cymdeithasol / Llês , a’r Athrawon Ymgynghorol.

* Mae trefn bwrpasol a chynhwysfawr ar gyfer adnabod plant ag anghenion addysgol arbennig. Mae canllawiau manwl wedi eu paratoi ar gyfer hyn a gellir cael eu gweld mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth.

POLISI IAITH YR AWDURDOD

Amcanion cyffredinol

Mae Awdurdod Addysg Gwynedd yn gweithredu polisi dwyieithog drwy holl ysgolion Gwynedd. Atgyfnerthir y polisi hwn yn yr ysgol hon yn ei holl weinyddiad, gyda’r bwriad o ddatblygu medrau ieithyddol y plant i fod yn hyderus yn holl agweddau’r ddwy iaith cyn trosglwyddo i’r sector uwchradd.

Nodau pendant yr ysgol hon

Adran y Babanod

• Sicrhau sylfaen gadarn i bob plentyn yn y Gymraeg.

• Adeiladu ar y sylfaen hynny drwy flynyddoedd y Babanod.

• Cadarnhau, atgyfnerthu a datblygu y dysgwr Cymraeg.

• Magu hyder a datblygu gafael y plentyn o gartref Cymraeg ar yr iaith Saesneg.

Adran Iau

• Parhau i atgyfnerthu a datblygu Cymraeg a Saesneg pob plentyn ymhob agwedd er mwyn sicrhau ei fod yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn hyderus yn y ddwy iaith cyn trosglwyddo o’r sector Gynradd i’r Uwchradd.

• Darperir trefniant arbennig yn y Ganolfan Iaith yng Nghaernarfon ar gyfer hwyr ddyfodiaid di – Gymraeg rhwng 7 ac 11 oed

PRESENOLDEB YN YR YSGOL

Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn hanfodol os yw plentyn am wneud y cynnydd gorau posibl. Rhaid i’r ysgol roi eglurhad am bob achos o absenoldeb a phenderfynu a yw’n “absenoldeb gydag awdurdod “ (e.e. salwch) neu’n “absenoldeb heb awdurdod” (e.e. mynd i siopio)

Caniateir hyd at ddeg diwrnod o wyliau yn ystod blwyddyn addysgol- ond mae’n rhaid cael ffurflen bwrpasol gyda chaniatad y Pennaeth gogyfer hyn.

Gofynnwn i rieni gysylltu gyda ni cyn 9 o’r gloch os yw plentyn yn absennol neu am fod yn hwyr. Nii chawn dderbyn esboniad gan y plentyn ei hunan.

O dan adran 199 Deddf Addysg 1993, rhaid i’r ysgol gofnodi pob disgybl sy’n cyrraedd yn hwyr yn ogystal a phob absenoldeb.
Ynghlwm a’r canllawiau newydd, gan yr ysgol y mae’r hawl i gymeradwyo absenoldeb ac nid gan y rhieni.
Rydym yn cofrestru gyda dull Simms yr Awdurdod Addysg Lleol sy’n nodi hefyd prydlondeb cyrraedd yr Ysgol.

RHIENI A CHYFEILLION YSGOL CWM Y GLO

Anogir chwi yn gryf i ymuno yn y gweithgareddau hyn, yn ogystal â’r gweithgareddau codi arian a drefnir gan amlaf gan Rieni a Chyfeillion Ysgol Cwm y Glo. Maent yn griw hynod o dryw a gweithgar i’r achos, sy’n llwyddo i godi swm sylweddol o arian bob blwyddyn. Mae’n ffordd arbennig i rieni ddod i adnabod ei gilydd, staff yr ysgol a’r gymuned leol.

Cysylltiadau yn yr Ysgol

Pennaeth Mr. Garem Jackson
Adran Iau Mr. Garem Jackson, Miss Eleri E. Jones a Mrs. Gwenifer. Roberts
Babanod Mrs. Nia G. Oliver a Mrs. Gwenifer. Roberts

Clerc swyddfa Miss Kelly Williams

Clerc arian cinio Mrs. Janet Taylor

Gellir cysylltu trwy ffonio, llythyru, e-bostio neu wrth gwrs wyneb yn wyneb.

Awdurdod Addysg Gwynedd
Cyfarwyddwr Addysg, Diwylliant a Hamdden
Swyddfa Addysg,
Stryd y Castell,
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 1SH 01286 672255

Trefniadaeth yr ysgol
Ysgol Gynradd Sirol (Babanod/Iau/Meithrin) yw’r ysgol hon. Mae’n ysgol ddyddiol, dwyieithog gyd-addysgol.

Mae cysylltiad rhwng yr ysgol ag Ysgol Brynrefail yn Llanrug. Trefnir cyd-drafod ac ymweliadau rhwng athrawon a rhieni cyn i blant drosglwyddo.

Mae tri dosbarth yn yr ysgol eleni: Dosbarth Peris = Meithrin/Derbyn, Blwyddyn 1 a 2,
Dosbarth Llydaw = Blwyddyn 3 a 4, a Dosbarth Marchlyn = Blwyddyn 5 a 6.

Mae gofynion statudol hefyd yn rhoi 10% o amser addysgu yn ddigyswllt i athrawon. Yma yn Ysgol Cwm y Glo rydym yn rhannu arbenigedd i gyflawni hyn.

Oriau Dysgu
Mae’r oriau dysgu yn 25 awr yr wythnos i’r plant Iau, 22.5 awr i’r Babanod –onibai am y Meithrin.

Mae sesiwn y bore rhwng 9:00 - 12:00 o’r gloch, 1.00 - 3.00 i’r plant meithrin

Sesiwn y prynhawn rhwng 1:00 - 3:00 o’r gloch i’r Babanod
1.00 - 3.30 o’r gloch i’r plant Iau.

TREFN GWYNO

Mae’r Awdurdod Addysg Lleol, yn unol a gofynion yr Ysgrifennydd Gwladol, dan Adran 23 o Ddeddf Diwygio Addysg 1980 wedi sefydlu trefn i ystyried cwynion am y modd y mae cyrff Llywodraethu’r ysgolion a’r Awdurdod Addysg yn gweithredu mewn perthynas a chwricwlwm ysgol a materion eraill cysylltiedig. Mae’r drefn hon wedi ei hamlinellu mewn dogfen bwrpàsol yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd ar gael yn yr ysgol.

Darperir copi’n rhad ac am ddim, yn ol y gofyn, i unrhyw rieni syn dymuno gwneud cwyn dan y trefniadau hyn, a gall yr Awdurdod ddarparu copi mewn iaith heblaw’ r Gymraeg a’r Saesneg os bydd hynny’n angenrheidiol. Pwysleisir, fodd bynnog, y gellir ymdrin a llawer o gwynion yn gyflym ac effeithiol drwy ystyriaieth anffurfiol yn seiliedig ar drafodaethau gyda’r Pennaeth. Hwn yw’r cam rhesymol cyntaf, a bydd y Corff Llywodraethu’n disgwyl bod y cam yma wedi ei gyflawni cyn cyflwyno’r gwyn yn ffurfiol, heblaw mewn achosion eithriadol.

Dylid cysylltu a’r ysgol i wneud apwyntiad gyda’r Pennaeth.

TYWYDD GARW

Os ceir rhybudd eira trwm gan y Swyddfa Dywydd, trosglwyddir neges am tua 8 o’r gloch y bore trwy orsafoedd radio Cymru, Wales a Champion os yw yr Ysgol yn methu agor. Cyflwynir y neges hefyd ar wefannau y gorsafoedd, ynghyd â gwefan Gwynedd ac www.ysgolcwmyglo.org

Y SEFYLLFA IEITHYDDOL

Ysgol naturiol Gymraeg yw Ysgol Cwm y Glo ac mae’r staff a’r disgyblion yn gweithio’n galed i gadw naws ac awyrgylch Gymreig yr ysgol. Ni ddylai’r rhai ohonoch sydd a’ch plant yn ran o sefyllfa ddwyieithog am y tro cyntaf deimlo dan fygythiad na theimlo nad ydych chi’n perthyn. Efallai nad ydych chi’n siarad Cymraeg (er bod llawer o rieni’n penderfynu dysgu’r iaith), ond gobeithiwn y byddwch yn parchu’r awyrgylch ieithyddol sy’n bodoli yma, awyrgylch sy’n cyfoethogi cymaint ym mhob ystyr ar brofiadau dysgu’r plant. Parchwn eich hawl chi i ddefnyddio’r iaith a ddewisir gennych, ac i’r diben hwnnw, bydd pob gohebiaeth o’r ysgol yn ddwyieithog.

 
   
 
Ysgol Gynradd Cwm Y Glo, Cwm Y Glo, Caernarfon, Gwynedd LL55 4DE

Dyluniwyd gan Delwedd

Plant Y Gymuned Ysgol Rhieni Argraffu E-bostiwch Ni Marciwch Ni Sôn wrth ffrind