Diolch yn fawr i Gyfeillion a Rhieni yr Ysgol am drefnu noson i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yng nghwmni Cas Meurig, Pigyn Clust, Nial a Danny Cain a phlant yr ysgol. Wedi cyngerdd gwych yng Nghapel Tabernacl daeth pawb draw i’r ysgol am baned, teisen a sgwrs.
Roedd prysurdeb mawr yn yr ysgol wrth i ni baratoi ar gyfer eisteddfodau yr Urdd. Ein diolch i Miss Eleri Jones am hyfforddi y plant – braf oedd eu gweld yn mwynhau perfformio ar lwyfan Ysgol Brynrefail, yn Ysgol Maesincla ac yn Neuadd Prichard Jones ym Mangor. Da iawn chi, blant; rydym yn falch ohonoch!
Bu dosbarthiadau Llydaw a Marchlyn yn Amgueddfa Lechi Llanberis ar ddydd Iau, Mawrth 11eg yn cael gweithdy cerddoriaeth ‘rap’ ar newid hinsawdd. Roedd hwn yn brofiad ardderchog gyda’r ddau ddosbarth wedi llwyddo i gyfansoddi i safon uchel.
Cafwyd noson ddiddorol a llwyddiannus yng ngwmi y plant yn ddiweddar pan wahoddwyd rhieni i’r ysgol i gael cyflwyniadau a chyngor gan y plant ar ddiogelwch wrth ddefnyddio y rhyngrwyd. Roedd plant dosbarth Marchlyn wedi ymchwilio yn fanwl ac roedd eu cyflwyniadau yn hynod aeddfed a defnyddiol.
Daeth y cerddor taro enwog, y Dr. Dewi Ellis Jones i’r ysgol ar brynhawn Gwener, Mawrth 12fed er mwyn cynnal y cyntaf o’i bedwar gweithdy gyda phlant blynyddoedd pedwar, pump a chwech. Rydym yn hynod o ffodus o’i gael yma gan ei fod yn brysur iawn ledled Cymru a thu hwnt.
Bu plant dosbarth Marchlyn yng Nghanolfan Thomas Telford, Porthaethwy ar ddydd Mawrth, Mawrth 16eg yn mwynhau gweithgareddau ar bontydd a sut i’w hadeiladau.
Bu plant dosbarth Llydaw yn ymweld ag eglwysi a chapeli yn Llanberis a Chaernarfon fel rhan o’u hastudiaethau addysg grefyddol ar ddydd Mawrth, Mawrth 23ain.
Bydd disgyblion dosbarth Marchlyn yn mentro draw i Blas Menai am wythnos ddiwedd mis Mawrth er mwyn manteisio ar y cyfle i ddysgu hwylfyrddio, caiacio a hwylio. Gobeithio bydd y tywydd yn ffafriol – rydym yn edrych ymlaen i glywed eich newyddion a gweld eich lluniau!
Ein llongyfrachiadau a dymuniadau gorau i Mr. a Mrs. G. Roberts (Miss Smith) ar enedigaeth Iestyn Fôn – brawd bach a ffrind newydd i Trystan. Rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld yn yr ysgol yn fuan.
|
|
Ellie a phlant dosbarth Marchlyn yn gwrando ar gyflwyniad difyr Mr. Bob Daimond wrth gadwynau trawiadol Pont Menai. |
y Dr. Dewi Ellis Jones yn arddangos ei offerynnau taro i blant blynyddoedd pedwar, pump a chwech. |